Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 5 Tŷ Hywel a
fideo gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 12 Ionawr 2023
Amser:
09.33 -
12.47
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13172
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Paul Davies AS (Cadeirydd) Luke Fletcher AS Vikki Howells AS Samuel Kurtz AS Sarah Murphy AS Jack Sargeant AS |
Tystion: |
Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Gian Marco Currado, Llywodraeth Cymru Dean Medcraft, Llywodraeth Cymru Gavin Watkins, Llywodraeth Cymru Sioned Evans, Llywodraeth Cymru Jo Salway, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Anfonodd Hefin David ei ymddiheuriadau, a dirprwyodd Jack Sargeant ar ei ran.
2 Papurau i'w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 Llythyr oddi wrth y Sefydliad Ffiseg
2.2 Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
2.3 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
2.4 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus
2.5 Llythyr gan y Prif Weinidog at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid
2.6 Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
2.7 Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
2.8 Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau
2.9 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid
2.10Llythyr gan y Prif Weinidog
2.11Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
2.12Llythyr gan Weinidog yr Economi
2.13Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
2.14Llythyr at y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
2.15Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
2.16Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at y Prif Weinidog
2.17Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys
2.18Llythyr at Weinidog yr Economi
2.19Llythyr gan Weinidog yr Economi
2.20Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd
3 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru - Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
3.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.
3.2 Cytunodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd i hysbysu’r Pwyllgor ynghylch gwerth y contract Cyswllt Ffermio ar gyfer mis Ebrill 2023 i fis Mawrth 2025.
3.3 Cytunodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd i roi diweddariad i'r Pwyllgor ar drafodaethau yng nghyfarfod Grŵp Rhyngweinidogol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ynglŷn ag effaith ffliw adar ar y sector dofednod.
4 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru - Gweinidog yr Economi
4.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith Gweinidog yr Economi.
5 Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol diwygiedig
5.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
6 Cydsyniad Deddfwriaethol: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl)
6.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
7.1 Derbyniwyd y cynnig.
8 Preifat
8.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd yn y sesiynau tystiolaeth blaenorol.
9 Ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i Benodiadau Cyhoeddus
9.1 Trafododd y Pwyllgor Ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i Benodiadau Cyhoeddus a chytunodd i beidio â darparu ymateb ffurfiol.
10 Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol diwygiedig
10.1 Cytunodd y Pwyllgor i fynd ar drywydd gohebiaeth i’r Gweinidog Newid Hinsawdd.
11 Cydsyniad Deddfwriaethol: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl)
11.1 Cytunodd y Pwyllgor i fynd ar drywydd ymateb ysgrifenedig i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.
12 Cytundeb Rhyngwladol: Cytundeb rhwng y DU a'r Swistir ar gydnabyddiaeth gilyddol mewn perthynas ag asesu cydymffurfiaeth
12.1 Nododd y Pwyllgor y Cytundeb rhwng y DU a’r Swistir ynghylch cydnabyddiaeth gilyddol mewn perthynas ag asesiad cydymffurfiaeth.